Gosod Gamban ar ddyfais Apple (yn hynach na iOS 11.2)

Cyn gosod Gamban ar eich dyfais Apple, peidiwch ag anghofio newid i Safari fel eich porwr diofyn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Sylwch na fydd modd gosod Gamban ar ddyfeisiau a reolir gan y gwaith.

Yn gyntaf, sicrhewch fod eich system weithredu (iOS) yn fersiwn 9.0 i 11.2.  Gallwch ddiweddaru eich system weithredu yng ngosodiadau eich dyfais. Am ganllaw ar sut i osod Gamban ar iOS 11.2 a’r fersiynau uwch, cliciwch yma. Yna, lawrlwythwch ap Gamban o’r App Store trwy glicio yma.

Gosod Gamban ar Eich Dyfais

1.) Sicrhewch eich bod wedi cofrestru cyfrif gyda Gamban a bod gennych drwydded ddilys. Gallwch gofrestru cyfrif gyda ni’n uniongyrchol drwy ein gwefan, neu drwy agor ap Gamban a dewis “Creu Cyfrif”.2.) Ar ôl cofrestru, agorwch ap Gamban, dewiswch ‘Mewngofnodi’ a rhowch eich manylion mewngofnodi.3.) I ddechrau’r broses lawrlwytho, dewiswch “Gosod Rhwystro Gamban”, yna, “Lawrlwytho Gamban”. Byddwch yn cael eich ailgyfeirio at dudalen allanol drwy Safari.4.) Pan ofynnir i chi, “Mae’r gwefan hon yn ceisio agor Gosodiadau i ddangos proffil ffurfweddu i chi”, dewiswch “Caniatáu”.
5.) Byddwch yn cael eich ailgyfeirio at dudalen ‘Proffil’. Dewiswch y proffil sydd ar y brig, yna dewiswch “Gosod” ar y brig ar y dde o’ch sgrîn. Dewiswch “Gosod” am yr eildro, yna “Ymddiried” unwaith y bydd ffenestr “Rheoli o Bell” yn ymddangos.
6.) Unwaith y bydd hysbysiad yn ymddangos, dewiswch “Tapio yma i orffen gosod Gamban” ac arhoswch i’r broses osod gael ei chwblhau. Fel arall, os nad yw’r hysbysiad yn weladwy, dewiswch ‘Gorffen’, yna agorwch ap Gamban eto.

Nawr, gallwch fwynhau tawelwch meddwl gan wybod bod eich dyfais wedi’i diogelu rhag cael mynediad at wefannau a rhaglenni gamblo.

Ydych chi’n cael trafferth gosod Gamban?

Gallwch gysylltu â’n staff cymorth trwy ddefnyddio ein tudalen gysylltu i siarad ag un o’n harbenigwyr.

Tags